Cyngor Tref Beaumaris
Dros yr wythnosau diwethaf mae sylwadau dirmygus wedi ymddangos ar wefannau cymdeithasol yn rhoi bai ar y Cyngor Tref a staff y Cyngor Tref am ganslo yr Wyl Fwyd.
Hoffem ddweud nad oedd y Cyngor Tref na’r Staff yn gyfrifol am ganslo y digwyddiad. Nid ydym yn gallu derbyn y sylwadau sydd yn anwir, ddiwarant ac yn gamarweiniol. Rydym fel Cyngri tref a staff wedi cefnogi y digwyddiad gant y gant ers y cychwyn ac wedi cydweithio a rhoi Cymorth iddynt sef Cynghrair Seiriol, Canolfan Beaumaris ac Anglesey Events Ltd.
Rydym yn gobeithio cael cyfarfod gyda’r trefnwyr yn y dyfodol agos a’r bwriad yw y bydd datganiad arall yn cael ei gyhoeddi ar ol hyn. Gofynwn yn garedig i neb wneud rhagor o sylwadau tan hynny.