Cyngor Tref Beaumaris
Er gwybodaeth / For information.
|
|||
|
Datganiad i’r Wasg
Gwella toiledau arfordirol Môn diolch i gronfa gwerth £250,000
Bydd trigolion ac ymwelwyr Ynys Môn yn elwa ar gronfa gwerth £250,000 a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru i wella cyfleusterau toiledau arfordirol ar yr Ynys.
Mae y Cyngor Sir yn cyfrannu swm ychwanegol o £62,500 tuag at gost gwella’r cyfleusterau.
Bydd toiledau ar bedwar traeth ar Ynys Môn (Biwmares, Rhosneigr, Traeth Bychan a Moelfre) yn cael eu moderneiddio a’u gwella fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru, Y Pethau Pwysig.
Nod cynllun Y Pethau Pwysig yw cynorthwyo i wireddu gwelliannau i seilwaith ar raddfa fach mewn lleoliadau ymwelwyr strategol pwysig ledled Cymru.
Dywedodd Deilydd Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol Ynys Môn, y Cynghorydd Neville Evans, “Bydd yr arian hwn yn ein helpu i gyflawni’r nodau yn ein Cynllun Rheoli Cyrchfan a lansiwyd yn ddiweddar.”
Ychwanegodd, “Yn aml, nid yw’r cyfleusterau hyn yn cael sylw, ond maent yn rhan bwysig o brofiad ymwelwyr a byddant o fudd i bobl sy’n byw yn yr ardal hefyd. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i geisio mwy o gyfleoedd ariannol i wella isadeiledd pwysig o amgylch yr Ynys.”
Bydd y gwaith o wella cyfleusterau toiledau yn y pedwar lleoliad yn cynnwys gosod cawodydd newydd, cyfleusterau ymolchi a rheseli beiciau. Bydd byrddau gwybodaeth newydd yn cael eu darparu hefyd i ddarparu gwybodaeth leol i breswylwyr a phobl leol.
Esboniodd Deilydd Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Ynys Môn, Y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, “Mae’r arian yma’n cael ei groesawu’n fawr, bydd yn ein helpu i foderneiddio mwy o’n toiledau cyhoeddus allweddol ledled yr Ynys. Bydd y gwaith hwn i uwchraddio cyfleusterau’n cyd-fynd â’r gwaith a gwblhawyd yn ddiweddar i adnewyddu toiledau yn Nhrearddur, Benllech, Porth Swtan a Phorth Dafarch.”
Diwedd 11.08.23
Am ragor o wybodaeth: Lee Jones, Uned Gyfathrebu (01248) 752129
Nodyn i Olygyddion:
Mae Y Pethau Pwysig yn gronfa gyfalaf gwerth £5M i sicrhau gwelliannau i seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ledled Cymru er mwyn sicrhau fod ymwelwyr yn cael profiad cadarnhaol a chofiadwy trwy gydol eu harhosiad.
Mae cronfa Y Pethau Pwysig 2023-25 wedi cefnogi 29 prosiect ledled Cymru gan flaenoriaethu buddsoddiad strategol mewn cyrchfannau allweddol i dwristiaid ac oherwydd hynny mae’n agored i Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn unig.