Cyngor Tref Beaumaris
Cartref > Y Cyngor > Cynghorwyr > Mr Alwyn Rowlands MBE
Mr Alwyn Rowlands MBE
Ward Orllewinol
Rwy’n dod yn wreiddiol o Fangor ond wedi priodi merch o Beaumaris, Dilys, ac wedi byw yn Llanfaes a Beaumaris ers 1966. Mae’n bleser gennyf ddweud fy mod wedi bod yn Gynghorydd ers canol y nawdegau ac wedi bod yn ymwneud yn helaeth â materion sydd wedi symud delwedd Beaumaris a Llanfaes yn ei blaen. Ar hyn o bryd rwy'n dal swydd:
- Cadeirydd Canolfan Beaumaris
- Is-Gadeirydd Cynghrair Seiriol
- Cadeirydd Cyngor ar Bopeth Ynys Môn
- Llywydd CPD Beaumaris (fel yr oedd)
- Aelod o Grŵp Cymunedol Morlais