Cyngor Tref Beaumaris
Cartref > Y Cyngor > Cynghorwyr > Mrs Rhian Jones
Mrs Rhian Jones
Ward Orllewinol
Dirprwy Faer 2025-2026
Cyn-Faer 2021-2022
Rwyf yn enedigol o Beaumaris, wedi mynychu Ysgol Gynradd Beaumaris, Ysgol David Hughes, a Phrifysgol Bangor. Wedi ymddeol yn ddiweddar, mae gennyf brofiad yn y sector breifat, cyhoeddus a gwirfoddol gyda cyn gyflogwyr yn cynnwys Cwmni Grid Genedlaethol, Cyngor Gwynedd, ac yn fwyaf diweddar, cwmni ymgynghori busnes sy'n gweithredu ledled Cymru a thu hwnt. Yn ystod fy amser fel cynghorydd, rwyf wedi cynrychioli’r Cyngor Tref ar gorff llywodraethu Ysgol Gynradd Beaumaris ac yn falch iawn o gyflawniadau diweddar yr ysgol. Rwy’n siarad Cymraeg yn rhugl ac yn gweithredu fel Pencampwr y Gymraeg i'r Cyngor.